Polisi Preifatrwydd

WYSIWG Generig (REF: 5043)

Rydym yn deall bod preifatrwydd personol yn fater pwysig ac rydym yn cefnogi'r egwyddor o ddiogelu preifatrwydd ar y Rhyngrwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol y DU.

Drwy ddefnyddio'r wefan hon rydych yn cydsynio â'r ffaith y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chasglu a'i defnyddio yn unol â'r polisi hwn. Mae'r polisi hwn yn amodol i newid, a dim ond ar y dudalen hon y bydd unrhyw newidiadau o'r fath yn cael eu hysbysu.

Ar hyn o bryd, er mwyn defnyddio'r eFodiwl, y mae'n ofynnol i chi gofrestru drwy ddarparu ychydig o wybodaeth bersonol. Gallai'r wybodaeth hon gynnwys eich enw, teitl, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost, ond nid yw wedi'i chyfyngu i'r elfennau hynny. Bydd y Brifysgol yn storio'r wybodaeth yn electronig neu â llaw. Drwy ddarparu'r wybodaeth hon rydych yn rhoi caniatâd iddi gael ei chadw am gyfnod rhesymol o amser ac iddi gael ei defnyddio er mwyn darparu'r gwasanaethau a gynigir gan yr eFodiwl.

Beth rydym yn ei wneud gyda'r wybodaeth?

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch i ni yn cael ei defnyddio at y diben a nodir ar yr adeg y gofynnwn amdani. Ni fyddwn yn gwerthu, trwyddedu neu fasnachu eich gwybodaeth bersonol i eraill. Nid ydym yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i gwmnïau marchnata uniongyrchol neu sefydliadau eraill o'r fath. Yn achlysurol, bydd gwybodaeth bersonol a ddarperir gennych yn cael ei rhannu â sefydliadau eraill ar gyfer atal twyll.